Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd,

a fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 11 Mawrth 2024

Amser: 10.00 - 12.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13736


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

Samuel Kurtz AS

Adam Price AS

Tystion:

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Gareth Baglow, Llywodraeth Cymru

Helen Kellaway, Llywodraeth Cymru

Caroline Matthews, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio): Sesiwn dystiolaeth

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

</AI2>

<AI3>

3       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI3>

<AI4>

3.1   SL(6)459 – Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI4>

<AI5>

3.2   SL(6)462 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.3   SL(6)463 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

4       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI7>

<AI8>

4.1   SL(6)460 - Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

4.2   SL(6)461 - Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

5       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI10>

<AI11>

5.1   SL(6)454 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI11>

<AI12>

5.2   SL(6)455 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI12>

<AI13>

5.3   SL(6)457 - Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI13>

<AI14>

6       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI14>

<AI15>

6.1   Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Grwpiau Rhyngweinidogol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd mewn cysylltiad â chyfarfodydd y canlynol:

·         y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE,

·         y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol,

·         y Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd, ac

y Grŵp Rhyngweinidogol ar Chwaraeon.

</AI15>

<AI16>

6.2   Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI16>

<AI17>

6.3   Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Lloegr) a Rheolaethau Swyddogol (Amlder Gwiriadau) (Diwygio) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI17>

<AI18>

7       Papurau i'w nodi

</AI18>

<AI19>

7.1   Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi.

</AI19>

<AI20>

7.2   Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol: Craffu ar Fframweithiau Cyffredin

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷr Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.

</AI20>

<AI21>

7.3   Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o wybodaeth.

</AI21>

<AI22>

7.4   Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

</AI22>

<AI23>

7.5   Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriadau i Offerynnau Statudol Cymru

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a chytunodd i ysgrifennu gyda rhagor o sylwadau.

</AI23>

<AI24>

7.6   Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ofyn am ragor o wybodaeth.

</AI24>

<AI25>

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Mawrth 2024

Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Etholodd y Pwyllgor Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Mawrth 2024.

</AI25>

<AI26>

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI26>

<AI27>

10    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio): Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

</AI27>

<AI28>

11    Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

</AI28>

<AI29>

12    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig: Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno.

</AI29>

<AI30>

13    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfiawnder Troseddol: Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor hefyd yn ffurfiol ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Llywydd, a llythyr ar y cyd oddi wrth elusennau tai a digartrefedd yng Nghymru.

</AI30>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>